Tynnwch lun ohono’ch hun yn gwneud gwahaniaeth: Safwn gyda'n gilydd i roi terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched!
Tynnwch lun ohono’ch hun yn gwneud gwahaniaeth: Safwn gyda'n gilydd i roi terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched!
Mae'r Rhuban Gwyn yn symboleiddio rhoi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched, ond gall Diwrnod y Rhuban Gwyn olygu llawer o bethau i wahanol bobl. Mae'n ddiwrnod i fyfyrio; mae'n gyfle i wneud addewid i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau menywod a merched.
Ynglŷn â'r prosiect ffotograffiaeth
Cofleidiwch eich creadigrwydd a symudwch! Defnyddiwch ffurf eich corff anhygoel neu unrhyw bropiau y gallwch ddod o hyd iddynt yn eich cymdeithas i greu llythyren ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn. Byddwn yn casglu eich lluniau ynghyd ac yn creu poster collage trawiadol a fydd yn sillafu'r neges yn glir a chroyw: “Diwrnod y Rhuban Gwyn” a “White Ribbon Day”.
Er mwyn cael effaith sylweddol, rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, ac os bydd 37 o grwpiau'n cymryd rhan, bydd modd i ni sillafu Diwrnod Rhuban Gwyn Prifysgol Aberystwyth ac Aberystwyth University White Ribbon Day.
Mynegwch eich hun
Yn y prosiect hwn, fe’ch anogwn i fynegi eich meddyliau, eich teimladau a'ch gobeithion trwy gyfrwng ffotograffiaeth. Gallwch ganolbwyntio ar adrodd straeon gweledol neu unrhyw gyfrwng creadigol sy'n apelio i chi.
Trwy gyfrannu byddwch yn ein cynorthwyo i daflu goleuni ar bwysigrwydd undod a'r rhan y mae pob un ohonom yn ei chwarae yn y frwydr i atal trais yn erbyn menywod a merched. Dyma rai enghreifftiau o sut y gallwch greu llythyren.
