Tynnwch lun ohono’ch hun yn gwneud gwahaniaeth: Safwn gyda'n gilydd i roi terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched!

Tynnwch lun ohono’ch hun yn gwneud gwahaniaeth: Safwn gyda'n gilydd i roi terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched!

Mae'r Rhuban Gwyn yn symboleiddio rhoi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched, ond gall Diwrnod y Rhuban Gwyn olygu llawer o bethau i wahanol bobl. Mae'n ddiwrnod i fyfyrio; mae'n gyfle i wneud addewid i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau menywod a merched.

Ynglŷn â'r prosiect ffotograffiaeth

Cofleidiwch eich creadigrwydd a symudwch! Defnyddiwch ffurf eich corff anhygoel neu unrhyw bropiau y gallwch ddod o hyd iddynt yn eich cymdeithas i greu llythyren ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn. Byddwn yn casglu eich lluniau ynghyd ac yn creu poster collage trawiadol a fydd yn sillafu'r neges yn glir a chroyw: “Diwrnod y Rhuban Gwyn” a “White Ribbon Day”.
Er mwyn cael effaith sylweddol, rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, ac os bydd 37 o grwpiau'n cymryd rhan, bydd modd i ni sillafu Diwrnod Rhuban Gwyn Prifysgol Aberystwyth ac Aberystwyth University White Ribbon Day.

Mynegwch eich hun

Yn y prosiect hwn, fe’ch anogwn i fynegi eich meddyliau, eich teimladau a'ch gobeithion trwy gyfrwng ffotograffiaeth. Gallwch ganolbwyntio ar adrodd straeon gweledol neu unrhyw gyfrwng creadigol sy'n apelio i chi.

Trwy gyfrannu byddwch yn ein cynorthwyo i daflu goleuni ar bwysigrwydd undod a'r rhan y mae pob un ohonom yn ei chwarae yn y frwydr i atal trais yn erbyn menywod a merched. Dyma rai enghreifftiau o sut y gallwch greu llythyren.

Sut i gymryd rhan

Os hoffech ymuno â ni, anfonwch ateb erbyn dydd Mercher 8 Tachwedd i gadarnhau eich bod am gymryd rhan. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion, canllawiau, ffurflenni caniatâd ac unrhyw offer angenrheidiol i’r rhai sydd ei angen. Gyda'n gilydd, gallwn greu naratif gweledol grymus sy'n taro deuddeg gyda'n cymuned. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â mi yn car62@aber.ac.uk. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed oddi wrthych! Rwy'n gweithio ar ddydd Iau a dydd Gwener a byddaf yn ateb eich neges cyn gynted â phosibl. Dymuniadau gorau, Cara Rainbow

Mae siarad am gam-drin domestig, aflonyddu ar sail rhywedd yn y gweithle ac ymosodiadau rhywiol yn anodd, ac mae hynny’n ddealladwy. P'un a ydych wedi profi aflonyddu rhywiol neu drais rhywiol eich hun, neu’n cynorthwyo rhywun sydd wedi’u dioddef, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i roi gwybod i ni, a ble i fynd i gael cyngor pellach, yma: https://reportandsupport.aber.ac.uk I gael cymorth a chyngor cyfrinachol rhad ac am ddim ar gam-drin domestig, trais rhywiol neu drais yn erbyn menywod, gallwch gysylltu â llinell gymorth 24 awr Byw Heb Ofn ar: 0808 80 10 800 neu gael sgwrs fyw yn: https://welshwomensaid.org.uk/what-we-do/live-fear-free-helpline/

Centre For Age Gender and Social Justice
Exit mobile version