Cylchlythyr Dewis Choice #1 - Twf

Mae wedi bod yn fis o dwf personol i’n tîm, o enedigaethau, o sesiynau bŵt-camp i brosiectau, i wella ein sgiliau Cymraeg! Rydym wedi’n hysbrydoli ac yn hynod gyffrous i ddod â’r egni hwn i’n cylchlythyr cyntaf erioed. P’un a ydych yn awyddus i ddysgu rhywbeth newydd neu ddyfnhau eich dealltwriaeth o gam-drin domestig a phobl hŷn, mae gennym ddigon o gyfleoedd i’w rhannu â chi isod.

🚀 Rydym yn recriwtio!

Rydym yn chwilio am ddau Ymarferydd Lles i ymuno â’n tîm i gynorthwyo dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi cam-drin domestig yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Dolen i’r swydd: https://jobs.aber.ac.uk/cy/vacancy/ymarferydd-lles-dewis-choice-x2-559650.html
Eisiau gwybod mwy? Anfonwch e-bost atom os oes gennych unrhyw gwestiynau.

🔮 Ddim yn siŵr? Darllenwch y cwestiynau isod i weld a fyddech yn ateb ‘byddwn’ neu ‘ydw’ i unrhyw un ohonynt:

  • A fyddech chi’n hoffi gwneud gwahaniaeth i fywydau dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi cam-drin domestig?
  • A fyddech chi’n gallu gweithio gydag asiantaethau lleol i ddarparu cymorth yn y gymuned yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro?
  • Ydych chi’n chwilio am dwf personol a phroffesiynol o fewn tîm cefnogol, sy’n canolbwyntio ar y cleient?
  • A fyddech chi’n hoffi dysgu neu siarad Cymraeg yn ystod oriau gwaith?

⌛️ Yn brin o amser? Peidiwch â phoeni—gallwch lenwi eich cais, a’i gadw fesul tipyn wrth fynd yn eich blaen.

📽️Lansio animeiddiad ar gam-drin domestig yn Iaith Arwyddion Prydain

15 Mehefin, fe wnaethom ddathlu Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth am Gam-drin Pobl Hŷn trwy lansio fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’n hanimeiddiad ‘Niwed Cudd’. Dywedodd Natalie Hancock, Cynghorydd Rhanbarthol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Canolbarth a Gorllewin Cymru) “trwy rannu’r animeiddiad hwn yn Iaith Arwyddion Prydain, gallwn symud yn agosach at ddarpariaeth fwy cynhwysol, teg a hygyrch i bobl hŷn sy’n dioddef y mathau hyn o drais a chamdriniaeth”.

      • Gwyliwch y fideo BSL a Chymraeg: YMA
      • Darllenwch am y fideo: YMA

 

📚 Pecyn cymorth ar Gam-drin Domestig a Dementia

Rydym wedi diweddaru ein Pecyn Cymorth ar Gydfodolaeth Cam-drin Domestig a Dementia. Canllawiau yw’r rhain at ddefnydd ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau a allai ddod i gysylltiad â phobl hŷn sy’n dioddef trais a cham-drin domestig. Mae’r diweddariadau hyn yn golygu y gallwch fynd yn ôl i’w ddarllen lle bynnag sy’n gweithio orau i chi.

  • Gallwch ddarllen a lawrlwytho’r Pecyn Cymorth: YMA

🧠 Cyfleoedd hyfforddi

Hyd yma rydym wedi hyfforddi 24,000 o ymarferwyr dros y Deyrnas Unedig i ddatblygu eu gwybodaeth am weithio gyda dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi cam-drin domestig. Rydym wedi bod yn darparu hyfforddiant pellach gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Peidiwch â phoeni os colloch chi’r 2 sesiwn gyntaf, byddwn yn cynnal 3 sesiwn arall yn rhad ac am ddim o fis Medi ymlaen, ac mae gennym 82 o lefydd ar ôl.
 •           Gallwch gofrestru a chael mwy o wybodaeth: YMA

💡 Cyngor i ymarferwyr

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfeirio at Dewis Choice, wedi’i theilwra i ymarferwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau statudol a’r trydydd sector, neu i gael cyngor a chymorth cyfrinachol ar fynd i’r afael â cham-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd—gan gynnwys agweddau ar ddeddfwriaeth, canfod, atal, cyfiawnder, ac opsiynau lles—cysylltwch â ni ar: choice@aber.ac.uk

Cadw mewn cysylltiad

Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cylchlythyr nesaf ym mis Medi. I gael newyddion rheolaidd neu i gysylltu â ni, dilynwch ni ar:

🐦 Twitter / X: @choiceolderppl

🔗Linked In: @choiceolderppl

👥Facebook: @choiceolderppl

📸Instagram: @choiceolderppl

✉️ Ebost: choice@aber.ac.uk

Diolch am ymuno â ni ar y daith gyffrous hon. Gadewch i ni wneud gwahaniaeth gyda’n gilydd!

Centre For Age Gender and Social Justice
Exit mobile version