Cyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil dementia a cham-drin yn y cartref

Mae prosiect ymchwil sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng dementia a cham-drin domestig ymhlith pobl hŷn wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Comic Relief ac Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Treth Tampon.

Lansiwyd yr astudiaeth gan y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ym mis Awst 2019 gyda chyllid o £70,000 gan Comic Relief am gyfnod o 12 mis yn wreiddiol.

Mae Comic Relief bellach wedi dyfarnu £76,000 yn ychwanegol, gan alluogi ymchwil newydd ar astudiaeth ‘Datblygu Canllawiau Cyfreithiol a Rhwydweithiau Cymdeithasol lle mae Trais yn y Cartref a Dementia yn cyd-fodoli‘ i barhau am naw mis.

Mae canfyddiadau cychwynnol o’r astudiaeth gyntaf yn awgrymu bod pobl hŷn sy’n byw gyda dementia a thrais domestig yn aml wedi’u hynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth cymdeithasol a phroffesiynol, am fod eu tramgwyddwyr yn poeni y gallai hynny arwain at erlyniaeth neu sylw cyhoeddus.

Dywed ymchwilwyr fod angen gweithredu i sicrhau bod dioddefwyr-oroeswyr yn parhau i gael mynediad at gefnogaeth ar gyfer dementia a cham-drin domestig.

Dywedodd Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae ein hymchwil wedi canfod bod dioddefwyr-oroeswyr a’u teuluoedd yn addasu’n sylweddol ar lefel emosiynol a choorfforol yn sgil cael diagnosis o ddementia, yn ogystal ag wynebu gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw ac anabledd wrth chwilio am gymorth.

“Yn anffodus i ddioddefwr-oroeswr sy’n cael diagnosis o ddementia, prin yw’r dystiolaeth o weithio proffesiynol ar y cyd i ddarparu cefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig a dementia a hynny er bod ymateb cymunedol cydgysylltiedig yn cael ei gydnabod fel y ffordd fwyaf diogel i gefnogi’r cymhlethdodau sydd ynghlwm â thrais a cham-drin yn y cartref. Mae hyn yn broblem gan fod apwyntiadau a chyfathrebu â’r cleient fel arfer yn cynnwys yr aelod o’r teulu sy’n gyfrifol am y cam-drin ac sy’n gweithredu fel gofalwr.”

Yn ystod yr ail astudiaeth, bydd yr ymchwilwyr yn gweithio gyda grŵp o 20 o fenywod 55 oed neu drosodd lle mae dementia a cham-drin domestig yn bodoli dan yr un to.

Yn ogystal â chynnig cefnogaeth uniongyrchol i ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin yn y cartref, byddant hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr dementia neu weithwyr proffesiynol o’r gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol i greu ymateb cydgysylltiedig ar gyfer y cleient.

Fel rhan o’r astudiaeth ddiweddaraf, bydd tîm Dewis Choice hefyd yn darparu hyfforddiant i 100 o weithwyr rheng flaen ac wyth o wirfoddolwyr ar lefel gymunedol a chenedlaethol, yn ogystal â 50 o reolwyr gwasanaethau cymorth arbenigol ac ymarferwyr cyfreithiol.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth a rhoi’r sgiliau i ymarferwyr allu adnabod ac ymateb i achosion lle mae dementia a cham-drin domestig yn cyd-fodoli.

Mae’r hyfforddiant hefyd ar gael yn gyhoeddus fel adnodd ar-lein am ddim ar wefan Dewis Choice dewischoice.org.uk/what-we-do/training.

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU ac mae disgwyl i’r ffigwr godi i dros 1 miliwn erbyn 2025.

Mae’r astudiaeth ddementia yn adeiladu ar seiliau prosiect ymchwil Dewis Choice, a sefydlwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2015 i archwilio cam-drin domestig yn erbyn pobl hŷn – problem sy’n aml yn gudd.

Mae gwybodaeth bellach am brosiect Dewis Choice i’w chael ar-lein dewischoice.org.uk, trwy e-bost choice@aber.ac.uk neu ar Twitter @choiceolderppl.

Cafodd erthygl gan Sarah Wydall am y cysylltiad rhwng dementia a cham-drin yn y cartref ei chyhoeddi yn The Conversation ym mis Awst 2020.

Diwedd.

Llun: Sarah Wydall yw Prif Ymchwilydd prosiect ymchwil Dewis Choice, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

 

Dolenni:

Dewis Choice dewischoice.org.uk

Adran y Gyfraith a Throseddeg www.aber.ac.uk/cy/lac

Comic Relief www.comicrelief.com

 

Gwybodaeth Bellach:
Lucy Birch, Rheolwr Cyfathrebu, Dewis Choice, Prifysgol Aberystwyth
lub44@aber.ac.uk
Esther Prytherch, Cyfathrebu Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
07968 593078 | ejp14@aber.ac.uk

 

Ynglŷn â Phrifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2020 – The Times / The Sunday Times Good University Guide 2020. Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei sefydlu yn 1872, ac mae’n brifysgol addysgu ac ymchwil bwysig. Enillodd wobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) ym mis Mehefin 2018 a chafodd ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu yn The Times | Sunday Times Good University Guide 2019 – y brifysgol gyntaf i dderbyn y wobr ddwy flynedd yn olynol. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2019, daeth Aberystwyth i’r brig o blith prifysgolion Cymru a Lloegr, a’r ail yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr. Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ddiweddaraf yn 2015 roedd 95% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan Aberystwyth o safon a gydnabyddir yn fyd-eang neu’n uwch. Mae’r Brifysgol yn gymuned o ryw 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg ac ymchwil ysbrydoledig mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac arbennig. Rhif elusen gofrestredig 1145141.

      

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Centre For Age Gender and Social Justice